Sut rydym yn mynegi masau atomau?
Mae masau atomau unigol yn rhy fach i ddefnyddio felly rydyn ni’n mynegi mas trwy ei gymharu â mas atomig safonol (carbon-12).
Dyma yw mas atomig cymharol.
Beth gallwn ddefnyddio sbectromedr mas i ganfod?
Mas isotop o’r elfen.
Cyflenwad cymharol pob isotop o’r elfen (llaweredd).
Beth yw cam 1 sbectromedr mas?
Ioneiddio.
Sampl anweddol yn mynd mewn i’r siambr ac yn cael eu peledu gan lif o electronau ac mae rhai o’r gwrthdrawiadau yn digon egniol i fwrw electronau o’r gronynnau yn y sampl i ffurfio ionau positif.
Pam oes gan y rhan fwyaf o’r ionau wefr o +1 ar ôl ioneiddio?
Mae hi’n anoddach i dynnu electronau pellach o ion sydd eisioes yn bositif.
Pam oes rhaid ioneiddio’r sampl?
Er mwyn gallu cyflymu’r ionau.
Beth yw cam 2 sbectromedr mas?
Cyflymu.
Maes trydanol yn cyflymu’r ionau positif i fuanedd uchel.
Beth yw cam 3 sbectromedr mas?
Gwyro.
Ionau gwahanol yn cael eu gwyro gan y maes magnetig trwy onglau gwahanol.
Beth ydy maint gwyriad yn dibynnu ar?
Mas yr ion. Mae ionau ysgafnach yn cael eu gwyro fwy.
Gwefr yr ion. Mae ionau â gwefrau uwch yn cael eu gwyro fwy.
Sut ydy’r ionau yn cael eu gwahanu mewn sbectromedr mas?
Gwyro trwy faes magnetig.
Beth yw cam 4 sbectromedr mas?
Canfod.
Dim ond ionau sydd â’r gymhareb m/z gywir sy’n cyrraedd y canfodydd.
Beth sy’n digwydd i’r ionau sydd ddim yn cyrraedd y canfodydd?
Maent yn gwrthdaro â’r waliau lle maen nhw’n derbyn electronau ac yn cael eu niwtralu.
Yn y pen draw, maen nhw’n cael eu sugno o’r sbectromedr mas gan pwmp gwactod.
Beth gallwn gwneud er mwyn i’r ionau â’r gymhareb m/z anghywir cyrraedd y canfodydd?
Newid y faes magnetig e.e gwyriad llai = maes magnetig llai.
Pam oes angen gwactod tu fewn y sbectromedr mas?
Felly mae’r ionau sy’n cael eu cynhyrchu yn y siambr gallu teithio trwy heb daro moleciwlau aer.
Beth yw’r hafaliad i gyfrifo mas atomig cymharol o’r sbectromedr mas?
(llaweredd₁ x mas₁) + (llaweredd₂ x mas₂) / 100
Beth arall gallwn ddefnyddio’r sbectromedr mas ar gyfer?
Adnabod cyfansoddion anhysbys.
Adnabod cyfansoddion hybrin mewn gwyddoniaeth fforensig.
Dadansoddi moleciwlau yn y gofod.
Disgrifiwch brigau sbectrwm mas clorin?
Mae’r brig cyntaf yn cael ei achosi gan ³⁵Cl⁺ a’r ail brig yn cael ei achosi gan ³⁷Cl⁺.
Mae’r brigau gweddill yn ffurfio oherwydd:
(³⁵Cl - ³⁵Cl)⁺ , (³⁵Cl - ³⁷Cl)⁺ , (³⁷Cl - ³⁷Cl)⁺
Gallwn gweld fod hyn yn achosi cymhareb 9:6:1.
Pam oes gan ³⁵Cl a ³⁷Cl cymhareb 9:6:1?
³⁵Cl = 75%
³⁷Cl = 25%
³⁵Cl-³⁵Cl = 3/4 x 3/4 = 9/16
³⁵Cl-³⁷Cl + ³⁷Cl-³⁵Cl = 6/16
³⁷Cl-³⁷Cl = 1/4 x 1/4 = 1/16
9:6:1
Pam nad oes mwy na’r swm lleiaf o egni’n cael ei ddefnyddio wrth ioneiddio?
Ni ddim ond eisiau bwrw un electron.