Beth yw adeiledd solidau ionig?
Dellt enfawr o ionau positif a negatif.
Beth ydy adeiledd solidau ionig yn dibynnu ar?
Y nifer cymharol o ionau a’u meintiau.
Sut ydy’r ionau mewn adeiledd solidau ionig wedi’u trefnu?
Fel bod yr atyniad electrostatig rhwng yr ionau sydd â wefrau dirgroes yn fwy na’r gwrthyriad rhwng yr ionau â gwefrau tebyg.
Beth yw’r dau fath o solid ionig (sydd angen gwybod)?
Sodiwm clorid
Cesiwm clorid
Beth yw adeiledd sodiwm clorid?
Mae pob ion Na⁺ wedi’i amgylchynu â chwech ion Cl⁻.
Beth yw rhif cyd-drefnol?
Mae rhif cyd-drefnol ion yn rhoi’r nifer o ionau mae pob ion wedi’u bondio at.
Beth yw rhif cyd-drefnol sodiwm clorid?
6
Beth yw rhif cyd-drefnol cesiwm clorid?
8
Pam ydy rhif cyd-drefnol cesiwm clorid yn uwch na rhif cyd-drefnol sodiwm clorid?
Mae ion Cs⁺ yn fwy nag ion Na⁺ ac felly mae mwy o le i ionau Cl⁻ ei gwmpasu.
Beth yw priodweddau ffisegol solidau ionig?
Ymdoddbwyntiau uchel
Hydawdd mewn dŵr
Yn galed ond yn frau
Dargludyddion trydanol gwael pan yn solid ond dargludyddion trydanol da pan yn dawdd / wedi’i hydoddi
Pam oes gan solidau ionig ymdoddbwyntiau uchel?
Mae’r dellt yn cael ei dal at ei gilydd gan rymoedd electrostatig cryf ac mae angen llawer o egni i dorri’r bondiau yma.
Pam ydy solidau ionig yn hydawdd mewn dŵr?
Mae molecylau dŵr yn bolar felly bydd δ⁺ dŵr yn cael ei atynnu at yr ionau negatif a bydd δ⁻ dŵr yn cael ei atynnu at yr ionau positif.
Pam ydy solidau ionig yn galed ond yn frau?
Pan fydd grym yn cael ei roi, mae’r haenau o ionau yn llithro dros ei gilydd (ionau gwefr tebyg ar bwys ei gilydd). Felly, mae’r gwefrau tebyg yn gwrthyrru ac mae’r crisial yn torri.
Pam ydy solidau ionig yn dargludyddion trydanol gwael pan yn solid ond dargludyddion trydanol da pan yn dawdd / wedi’i hydoddi?
Mae cerrynt trydanol yn llifo pan mae’r ionau yn rhydd i symud.
Pan yn solid, mae’r ionau yn cael eu dal gan fondiau ionig cryf.
Pan yn dawdd / wedi’i hydoddi, mae’r ionau yn rhydd i symud a chludo cerrynt.