Beth yw brif rhifau cwantwm (n)?
Lefelau egni sefydlog / plisgau cwantwm sy’n cael eu llenwi gan electronau. Rydym yn rhifo’r blisgau yma yn 1,2,3,4, etc.
Pa lefel egni sydd â’r egni uchaf?
Yr isaf yw gwerth n, yr agosaf at y niwclews yw’r plisgyn a’r isaf yw’r lefel egni.
Beth yw orbitalau atomig?
Ardaloedd ble rydym yn debygol i ddod o hyd i electronau.
Sut gallwn cynrichioli orbital?
Gyda rhif a llythyren. Mae’r rhif yn dangos ei lefel egni ac mae’r llythyren yn dangos ei siâp.
Beth yw siâp orbital s?
Mae pob orbital s yn siâp sfferig.
Beth yw orbital 1s?
Orbital gyda’r lefel egni isaf (dyma ble mae’r electronau egni isaf yn bodoli).
Beth yw orbital 2s?
Orbital nesaf gyda lefel egni ychydig yn uwch ond siâp tebyg (llythyren s). Electronau yn bellach i ffwrdd o’r niwclews gan gwneud yr orbital 2s ychydig yn fwy na’r orbital 1s.
Beth yw orbital p?
Cynnwys tri orbitalau gwahanol wedi’u troi’n perpendicwlar - px, py, a pz.
Sut ydy’r electronau yn llenwi orbitalau p?
Llenwi pob orbital p gydag un electron cyn mynd nôl i paru fyny.
Beth yw mynegiant os byddwn yn llenwi 1s, 2s, a 2p yn gyflawn?
1s²2s²2p⁶
Beth yw egwyddor Aufbau?
Mae electronau yn llenwi’r orbitalau yn ôl eu trefn egni cynyddol.
Beth yw egwyddor wahardd Pauli?
Gall cyfanswm o ddau electron llenwi pob orbital gyda spin dirgroes.
Beth yw egwyddor Hund?
Bydd yr orbitalau yn derbyn un electron (spiniau paralel) cyn derbyn ail electron gyda spiniau dirgroes.
Beth yw trefn yr orbitalau sy’n llenwi?
1s → 2s → 2p → 3s → 3p → 4s → 3d → 4p etc.
Ydy ni’n llenwi 3d neu 4s yn gyntaf? Pam?
Llenwi orbital 4s yn gyntaf oherwydd mae gan 4s lefel egni îs.
Pa elfennau sy’n cael eithriad?
Cromiwm a chopr.
Beth yw eithriad cromiwm?
Mae gan cromiwm 24 electron ac felly rydym yn llenwi’r orbitalau fel:
Dim ond un electron sydd mewn orbital 4s cyn cychwyn llenwi orbital 3d (sydd â lefel egni uwch). Mae hyn oherwydd mae cael 2 orbital hanner llawn yn fwy sefydlog.
Ydy A neu B yn fwy sefydlog? Pam?
Mae A yn fwy sefydlog na B oherwydd mae cael 2 orbital hanner llawn yn fwy sefydlog nag 1 orbital anghyson.
Beth yw eithriad copr?
Mae gan copr 29 electron ac felly rydym yn llenwi’r orbitalau fel:
Nid yw orbital 4s wedi llenwi’n gyfan (er ei fod yn dod cyn orbital 3d). Rydym yn gwneud hyn er mwyn rhoi mwy o sefydlogrwydd i gopr. Os na fyddwn yn gwneud hyn bydd dim ond gan orbital 3d 9 electron ac mae hyn yn ansefydlog.