Mae halogenau yn bodoli ar ffurf…
…moleciwl deufolecylaidd sy’n cynnwys bond cofalent sengl.
Beth yw priodweddau clorin ar dymheredd ystafell?
Nwy gwyrdd
Beth yw priodweddau bromin ar dymheredd ystafell?
Hylif coch-brown
Beth yw priodweddau iodin ar dymheredd ystafell?
Solid llwyd
Beth sy’n digwydd i ferwbwyntiau i lawr grŵp?
Cynyddu.
Mae’r nifer o electronau yn cynyddu ac felly mae’r grym rhyngfolecylaidd deupol anwythol-deupol anwythol yn gryfach.
Beth yw anweddolrwydd?
Pa mor hawdd mae sylwedd yn anweddu.
Beth sy’n digwydd i anweddolrwydd i lawr grŵp?
Lleihau.
Mae gan sylwedd sydd â thymheredd berwi isel anweddolrwydd uchel.
Sut ydy’r halogenau yn adweithio?
Trwy ennill electronau a ffurfio ionau halid negatif.
Maent yn cael eu hocsidio ac yn rhydwytho sylweddau eraill.
Beth sy’n digwydd i’w hadweithedd a’u pwer ocsidio i lawr grŵp?
Lleihau.
Mae’r electronau allanol yn cael eu cysgodi’n fwy ac yn bellach o’r niwclews. Felly, mae’n fwy anodd atynnu electronau.
Mae’r halogenau yn adweithio gyda’r rhan fwyaf o fetelau gan ffurfio’r…
…halid
Sut ydy gwlan haearn yn adweithio gyda clorin / bromin?
Mae’n ffurfio’r haearn(III) halid.
Sut ydy gwlan haearn yn adweithio gydag iodin?
Mae’n cynhyrchu haearn(II) halid oherwydd mae iodin yn llai adweithiol ac yn ocsidydd gwanach.
Beth yw tuedd halogenau wrth ddadleoli?
Mae halogen uwch mewn grŵp yn ocsidio ion halid îs mewn grŵp.
Mae clorin yn dadleoli…
…bromid ac iodid
Mae bromin yn dadleoli…
…iodid yn unig
Mae iodin yn dadleoli…
…dim byd
Pan mae adweithiau dadleoli yn digwydd, beth gwelwn?
Newid lliw
Beth gwelwn pan mae dŵr clorin yn cael ei gymysgu gyda hydoddiant potasiwm bromid?
Mae’r hydoddiant yn newid o ddi-liw i oren, oherwydd mae’r clorin wedi ocsidio’r ionau bromid i fromin.
Beth gwelwn pan mae dŵr clorin yn cael ei gymysgu gydag hydoddiant potasiwm iodid?
Mae’r hydoddiant yn newid o ddi-liw i frown, oherwydd mae’r clorin wedi ocsidio’r ionau iodid i iodin.
Pa prawf defnyddiwn i brofi am ionau halid?
Prawf arian nitrad
Beth yw amodau’r prawf arian nitrad?
Rhaid ei gynnal mewn hydoddiant
Rhaid hydoddi solidau mewn dŵr yn gyntaf
Pam ydyn ni’n ychwanegu diferion o asid nitrig yn gyntaf?
I sicrhau bod unrhyw anionau eraill (yn enwedig carbonad) yn cael eu dileu oherwydd bydden nhw hefyd yn ffurfio gwaddodion.
Pa lliw gwaddod ydy ionau Cl⁻ yn ffurfio?
Gwaddod gwyn
Pa lliw gwaddod ydy ionau Br⁻ yn ffurfio?
Gwaddod hufen
Pa lliw gwaddod ydy ionau I⁻ yn ffurfio?
Gwaddod melyn
Beth yw’r broblem gyda’r prawf arian nitrad a beth defnyddiwn i ddatrys?
Weithiau, mae’n anodd i weld newid lliw yn digwydd felly gallwn ychwanegu amonia dyfrllyd at y gwaddod.
Sut ydy gwaddod AgCl yn adweithio ag NH₃?
Gwaddod yn hydoddi mewn NH₃ gwanedig.
Sut ydy gwaddod AgBr yn adweithio ag NH₃?
Does dim llawer o’r gwaddod yn hydoddi mewn NH₃ gwanedig, ond mae’n hydoddi mewn NH₃ crynodedig.
Sut ydy gwaddod AgI yn adweithio ag NH₃?
Mae’r gwaddod yn anhydawdd mewn NH₃ gwanedig a chrynodedig.
Pam oes gan clorin berwbwynt uwch na fflworin?
Mae gan clorin mwy o electronau ac felly mae’r atyniad deupol anwythol-deupol anwythol yn gryfach.
Pa elfennau gallwn ychwanegu at ddŵr i’w wneud hi’n fwy saff i yfed?
Clorin a fflworin.
Beth yw pwysigrwydd ionau clorad?
Maent yn lladd bacteria.
Pa afiechydon ydy clorin yn atal?
Cholera a teiffoid.
Beth yw peryglon ychwanegu clorin at ddŵr?
Mae’n gallu adweithio gyda cyfansoddion organig gan ffurfio hydrocarbonau clorinedig sy’n gallu achosi canser yr afu a chanser yr arennau.
Beth yw pwrpas ychwanegu fflworin at ddŵr?
Atal pydredd dannedd.
Mwy effeithiol mewn plant nag oedolion.
Beth yw peryglon ychwanegu fflworin at ddŵr?
Gallu achosi fflworosis (dadliwio dannedd).
Pam oes gan sodiwm clorid ymdoddbwynt uwch na sodiwm iodid (unrhyw cation)?
Mae atom iodin yn fwy nag atom clorin ac felly’n profi llai o atyniad at yr atom sodiwm.
Pa grym sy’n bresennol rhwng halogen ac atom?
Deupol parhaol (sy’n gryfach na deupol dros dro).