Beth yw bond polar?
Os mae’r atomau mewn bond yn wahanol, bydd gan un atom wefr rhannol positif (δ+) ac bydd gan yr atom arall gwefr rhannol negatif (δ-).
Dwysedd electron anhafal.
Beth yw bond amholar?
Os mae’r dau atom yr un peth (e.e H₂), bydd gan yr atomau electronegatifedd hafal ac felly caiff yr electronau’n eu rhannu’n gyfartal.
Beth yw enwau gwahaniaeth electronegatifedd?
<0.4 = cofalent amholar
rhwng 0.4-1.9 = cofalent polar
2 = ionig
Beth oes rhaid ystyried wrth benderfynu ar siâp moleciwl?
Gwrthyriad rhwng y parau o electronau ym mhlisgyn falens y moleciwl.
Mae’r moleciwl eisiau creu siâp gyda’r…
…lleiaf o wrthyriad (bondiau mor bell â phosib o’i gilydd).
Beth yw plisgyn falens?
Plisgyn electronau allanol lle mae bondio yn digwydd.
Beth yw pâr unig?
Pâr o electronau ym mhlisgyn allanol atom sydd ddim yn cael ei rannu.
Beth yw pâr bondio?
Pâr o electronau ar atom sy’n cyfrannu at fond cofalent.
Beth yw’r dilyniant gwrthyrru (yn ôl damcaniaeth VSEPR)?
Pâr unig-pâr unig > pâr bondio-pâr unig > pâr bondio-pâr bondio
Faint ydyn ni’n lleihau’r ongl bond ar gyfer pob pâr unig?
2.5°
Beth yw siâp bond gyda 2 pâr bondio, 0 pâr unig?
Llinol
Ongl 180°
e.e beryliwm deuclorid
Beth yw siâp bond gyda 3 pâr bondio, 0 pâr unig?
Planar trigonol
120°
e.e boron trifflworid
Beth yw siâp bond gyda 4 pâr bondio, 0 pâr unig?
Tetrahedrol
109.5°
e.e methan
Beth yw siâp bond gyda 5 pâr bondio, 0 pâr unig?
Deubyramid trigonol (llinol + planar trigonol)
90° / 120°
e.e PF₅
Beth yw siâp bond gyda 6 pâr bondio, 0 pâr unig?
Octahedrol
90°
e.e SF₆
Beth yw siâp bond gyda 3 pâr bondio, 1 pâr unig?
Pyramidaidd
107° (109.5 - 2.5)
e.e CH₃⁺
Beth yw siâp bond gyda 2 pâr bondio, 1 pâr unig?
Plyg
104.5° (109.5 - 5)
e.e H₂O