Beth yw tymheredd a gwasgedd safonol?
0°C ac 1 atm
Faint o dm³ ydy un mol o sylwedd yn llenwi ar dymheredd a gwasgedd safonol?
22.4 dm³ (dyma yw cyfaint molar).
Beth yw tymheredd a gwasgedd ystafell?
25°C ac 1 atm
Faint o dm³ ydy un mol o sylwedd yn llenwi ar dymheredd a gwasgedd ystafell?
24.5 dm³
Beth yw hafaliad nwy delfrydol?
pV = nRT
Beth ydy p, V, n, R, a T yn cynrichioli?
p = gwasgedd (Pa)
V = cyfaint mewn m³
n = molau
R = cysonyn nwy (8.31 JK⁻¹mol⁻¹)
T = tymheredd mewn K
Sut gallwn ddefnyddio’r hafaliad yma i gyfrifo’r cyfaint byddai nwy yn llenwir ar dymhereddau a gwasgeddau gwahanol?
(molau a chysonyn nwy yn aros yn gyson) ,
p₁V₁ / T₁ = nR
Os rydym yn defnyddio gwerthoedd p, V, a T gwahanol, yna,
p₂V₂ / T₂ = nR
ac felly,
p₁V₁ / T₁ = p₂V₂ / T₂
Beth yw deddf Boyle?
Ar dymheredd cyson, mae cyfaint mas sefydlog o nwy mewn cyfrannedd gwrthdro â’i wasgedd.
Beth yw deddf Charles?
Mae cyfaint, ar wasgedd cyson, mewn cyfrannedd union â’i dymheredd (K).
Beth yw egwyddor Avogadro?
Mae cyfeintiau cyson o nwyon, ar yr un tymheredd a gwasgedd, yn cynnwys yn ur nifer o foleciwlau.
Sur fedrwn newid o m³ i cm³?
x 1000000