1/49
Looks like no tags are added yet.
Beth yw defnydd ATP?
symudiad,
tymheredd corff cyson,
synthesis sylweddau,
cludiant actif,
trawsyriant nerfol
Beth yw manteision defnyddio ATP?
gallu symud o’r fitocondria i’r cytoplasm,
anadweithiol,
hawdd hydrolysu,
hawdd ffosfforyleiddio,
rhyddhau egni yn effeithlon: bach ar y tro ac nad yn lleihau colled egni ar ffurf gwres
Beth ydy ATP wedi gwneud allan o?
bas organig (adenin),
siwgr pentos (ribos),
grŵp ffosffad
Sawl foleciwl o ATP ydy resbiradaeth aerobig yn cynhyrchu?
38
Sawl foleciwl o ATP ydy resbiradaeth anaerobig yn cynhyrchu?
2
Beth yw fformiwla resbiradaeth?
C6H1206+602=6H20+6CO2
Beth yw resbiradaeth?
proses catabolig,
cyfres o adweithiau wedi’i gatalyddu gan ensymau mewn celloedd,
swbstradau resbiradol yn cael ei dori i lawr gan rhyddhau egni
Beth yw fformiwla adwaith hydrolysu?
ATP=ADP+Pi
Beth yw fformiwla ffosfforyleiddiad?
ADP+Pi=ATP+30KJmol-1
Lle ydy ffosfforyleiddiad ocsidiol yn digwydd?
pilenni’r mitocondria
Lle ydy ffotoffosfforyleiddiad yn digwydd? Ac ym mha proses digwiddir?
pilenni’r thylacoid,
ffotosynthesis
Disgrifio adwaith hydrolysu
adwaith ecsergonig,
ATPas yn catalyddu,
rhyddhau egni yn raddol
Beth yw 4 cam resbiradaeth aerobig?
glycolysis
adwaith cyswllt
cylchred krebs
cadwyn cludo electronau
Lle digwiddir glycolysis? O dan pa amodau?
cytoplasm,
amodau anaerobig (dim O2)
Enwch 3 cam/ffurfiad cyntaf glycolysis ac ei niferoedd o foleciwlau C
glwcos (6C),
glwcos ffosffad (6C),
glwcos biffosffad (6C)
Beth digwiddir rhwng 3 ffurfiad cyntaf glycolysis?
ATP yn troi i ADP+Pi (hydrolysis)
Beth yw cynnyrch glwcos biffosffad?
2 trios ffosffad (3C)
Yma mae dathydrogeniad yn digwydd i drios ffosffad trios ffosffad. Beth ydy hyn yn golygu?
mae’r moleciwl yn colli Hydrogen ac felly’n cael ei rhoi i NAD i gynhyrchu NADH+H
Mae ffosffolyleiddiad lefel swbstrad yn digwydd i drios ffosffad. Esbonia hyn.
grŵp ffosffad yn drosglwyddo'n uniongyrchol o foleciwl organig (trios ffosffad) ffosfforyledig i ADP, gan ffurfio ATP.
Beth yw cynnyrch trios ffosffad?
2 pyrwfad (3C)
Beth yw cynhyrchion glycolysis?
2 ATP,
2 NAD rhydwythol,
2 pyrwfad
Lle digwiddir yr adwaith cyswllt? O dan pa amodau?
matrics y mitocondria,
amodau aerobig (angen O2)
Beth digwiddir wrth i pyrwfad troi i asetad (2C)?
datcarbocsyleiddiad (datcarbocsylas): tynnu C ar ffurf CO2,
dathydrogeniad (dathydrogenas): H yn cael ei dynnu ac yn mynd i’r NAD sy’n rhydwytho
Beth yw cam olaf yr adwaith cyswllt?
asetad yn troi i asetyl cyd ensym A (CoA)
Beth yw cynhyrchion yr adwaith cyswllt?
2 asetyl CoA,
2 NADH,
2 CO2
Lle digwiddir y cylchred krebs? O dan pa amodau?
matrics y mitocondria,
amodau aerobig (angen O2)
Disgrifiwch y cylchred krebs.
6C: colli CO2, NAD yn troi i NADH.
5C: colli CO2, NAD yn troi i NADH, ATP yn cael ei gynhyrchu (ffosfforyleiddiad lefel swbstrad).
4C: FAD yn troi i FADH.
4C: NAD yn troi i NADH
Beth yw cynhyrchion y cylchred krebs
6 NADH
4 CO2
2 ATP
2 FADH
Beth digwirddir os yw sylwedd yn cronni yn ystod y cylchred krebs?
ensymau allweddol yn cael ei atal,
cyfradd y cylchred yn arafu,
proses nesaf yn y cylchred yn arafu/stopio
Lle digwiddir proses y cadwyn cludo electronau?
pilen mewnol y mitocondria
Beth yw enw’r proses sy’n digwydd yn y cadwyn cludo electronau?
Chemiosmosis
Disgrifiwch chemiosmosis
NAD + FAD rhydwythol yn darparu H i’r cadwyn (cael ei ocsidio gan rhyddhau H+ ac 2e-)
electronau (e-) yn cael ei basio ar hyd y cadwyn o gludydd i gludydd - mae hyn yn creu egni!
mae’r egni hyn yn gyrru’r pwmpiau sy’n pwmpio’r H+ o’r matrics i’r gofod rhyng-bilennol
felly mae crynodiad uwch o H+ yn y gofod - mae hyn yn creu graddiant electrocemegol
H+ yn llifo nôl i’r fatrics i lawr ei raddiant crynodiad trwy’r ensym ATPas (ATP synthetas)
mae hyn yn catalyddu ffosfforyleiddiad ocsidiol gan greu ATP (ADP+Pi=ATP)
mae electronau o’r cadwyn yn cyfuno ag ocigen (y derbynnydd Olaf) a’r H+ i ffurfio dŵr (1/2O2+2e-+2H+=H2O)
Beth yw mantais pilen y mitocondria a gloroplastau yn y cadwyn cludo electronau?
cynnal graddiant proton,
llif H+ drwy ATP synthetas yn cynhyrchu ATP
Disgrifiwch y graddiant protonau yn ystod resbiradaeth.
y proses o’r electronau yn symud ar hyd y cadwyn i’r cam olaf o O2 fel y derbynnydd olaf gen ffurfio dŵr
Disgrifiwch y graddiant protonau yn ystod ffotosynthesis.
golau yn cynhyrfu’r electronau
electronau yn symud ar hyd y cludyddion yn y bilen thylacoid
H+ yn cael ei bwmpio mewn i’r bilen thylacoid
H+ yn llifo nôl i’r stroma trwy ATP synthas
ATP yn cael ei gynhyrchu
defnyddio ATP i adeiladu carbohydradau
Beth ydy effaith DNP ac atalyddion ar y cadwyn cludo electronau?
chwalu’r graddiant proton,
ni all ATP synthetas cynhyrchu ATP yn effeithlon,
egni yn cael ei rhyddhau ar ffurf gwres
(peryglus iawn os yw’r corff yn gor-boethi)
Disgrifiwch y cymhlygyn ATP synthetas (nano-beiriant) mewn y mitocondria.
protonau yn tryledu i lawr eu graddiant electrocemegol trwy’r ATP synthetas,
mae hyn yn rhyddhau egni sydd yn achosi’r rotor i gylchdroi,
mae egni mecanyddol yn newid i egni cemegol wrth i’r ion ffosffad ychwanegu at ADP i ffurfio ATP,
mae’n cymryd 3 proton i symud i rotor troi 120° gan rhyddhau 1 moleciwl o ATP
Beth yw’r nodweddion mae’r mitocondria a gloroplastau yn rhannu?
defnyddio ATP synthetas
2 proton yn darparu egni i sythesieddio 3 ATP
pwmp protonau ar draws y pilen fewnol yr organyn
cadwyn trosglwyddo electronau ar bilen fewnol yr organyn
Beth gall a ddim gall digwydd yn ystod resbiradaeth anaerobig?
heb ocsigen does dim modd i’r NAD rhydwythol (a FADH) cael ei hailocsileiddio a fod ar gael felly i godi mwy o hydrogen,
felly ni all yr adwaith cyswllt na’r cylchred krebs digwydd
gall glycolysis digwydd gan fod y NADH (a ffurfiodd yn ystod glycolysis) trosglwyddo’r hydrogen i byrwfad i ffurfio asid lactig mewn anifeiliaid ac ethanol a CO2 mewn phlangigion
Disgrifiwch proses eplesiad.
pyrwfad yn cael ei ddatgarbocsyleiddio i gynhyrchu ethanol,
mae’r hydrogen cafodd ei rhyddhau yn ystod glycolysis yn cael ei drosglwyddio i’r NAD,
mae’r NADH yn pasio’r hydrogen i’r ethanal sy’n cael ei rhydwytho i ethanol
Disgrifiwch y broses o ffurfio asid lactig mewn cyhyrau.
yn ystod ymarfer corff egniol ni all y corff dynol anfon digon o ocsigen i gelloedd y cyhyrau,
felly rhaid i’r cyhyrau cynhyrchu ATP trwy glycolysis
NADH (wedi cynhyrchu yn ystod glycolysis) yn pasio hydrogen yn uniongyrchol i byrwfad gan ei rhydwytho i lactad
Pam nad yw pyrwfad yn mynd i’r cadwyn cludo electronau yn ystod resbiradaeth anaerobig mewn anifeiliaid?
nad oes ocsigen ar gael fel derbynnydd electronau terfynol
Sawl moleciwl o ATP ydy NAD a FAD yn cynhyrchu?
NAD = 3
FAD = 2
Pam yw amcangyfrif cynnyrch ATP gwirioneddol yn llai na 38? Beth yw’r amcangyfrif gwirioneddol?
ATP yn cael ei ddefnyddio i symud pyrwfad, ADP, NADH a FADH ar draws pilen y mitocondria
gall protonau cael ei gollwng ar draws pilen fewnol y mitocondria yn hytrach na mynd i fewn drwy ATP synthetas
defnyddir rhyfaint o egni cynhyrchir yn y cadwyn cludo electronau i gynhyrchu gwres yn hytrach na egni
felly amcangyfrif o tua 30-32 ATP am bob moleciwl glwcos
Beth yw hafaliad effeithlonrwydd cynhyrchu ATP?
egni sy’n cael ei ddarparu trwy ATP / egni sy’n cael ei rhyddhau wrth hylosgi X 100
môl o glwcos sy’n cael ei hylosgo mewn ocsigen = 2880KJ
egni sydd angen i wneud ATP = 30.6KJ/môl
38 môl o ATP = 30.6 X 38 = 1162.8KJ
1162.8 / 2880 X 100 =40.4% (resbiradaeth aerobig)
30.6 X 2 / 2880 X 100 = 2.1% (resbiradaeth anaerobig)
Disgrifiwch swyddogaeth lipidau fel swbstrad resbiradol.
braster yn darparu storfa egni,
defnyddio fel swbstrad pan fydd lefelau carbohydradau (glycogen a glwcos yn y gwaed) yn isel
Beth digwiddir i lipidau wrth ei ddefnyddio fel swbstradau resbiradol?
braster yn cael ei hydrolysu i glycerol ac asidau brasterog (swcros = glwcos + ffrwctos):
mae glyserol yn cael ei ffosfforyleiddio gyda ATP, ei ddadhydrogenu ag NAD a’i drawsnewid yn siwgr 3C, trios ffosffad sy’n mynd i’r llwybr glycolysis
Disgrifiwch swyddogaeth proteinau fel swbstrad resbiradol.
defnyddir fel ffynhonell egni dim ond pan fod cyflenwad carbohydradau a brasterau yn isel (e.e newyn neu ymarfer hirfaeth),
proteinau’n cael ei hydrolysu i asidau amino
grŵp amino (-NH2) yn cael ei dynnu a’i drawsnewid yn wrea sy’n cael ei ysgarthu
gweddillion yn cael ei drawsnewid yn pyrwfad, asetyl CoA neu un o ryngolion eraill cylchred krebs a’i ocsidio
Beth yw cyniferydd resbiradol?
cymhareb CO2 sy’n cael ei rhyddhau i ocsigen sy’n cael ei ddefnyddio yn ystod resbiradaeth
Beth yw hafaliad CR?
nifer molecylau CO2 sy’n cael ei gynhyrchu / nifer molecylau O2 sy’n cael ei ddefnyddio
ar gyfer carbohydradau, CR yn 1:
C6H12O6 + 6O2 = 6CO2 + 6H2O
CR = 6CO2 / 6O2 = 1
ar gyfer brasser, CR yn llai na 1:
C18H36O2 + 26O2 = 18CO2 + 18H2O
CR = 18CO2 / 26O2 = 0.7
ar gyfer proteinau, CR rhwng 0.8 a 0.9
gall CR amrywio gan ein bod yn resbiradu mwy nac yn math o swbstrad,
nid yw pob swbstrad yn cael ei ocsideiddio’n llawn