Newid a Pharhad cyn y Rhyfel Byd Cyntaf

Cyflwr y Dosbarth Gweithiol tua 1890

Prydain yn un o wledydd cyfoethocaf y byd yn 1880

Parhau i wynebu problemau economaidd a chymdeithasol

Ymdeimlad cryf o ddosbarth yn y cyfnod

5 miliwn o aristocratiaid yn berchen ar 50% o gyfoaeth y wlad

38 miliwn o bobl oedd yn weddill yn berchen ar y 50% arall

Amacangyfri yn Llundain bod 11% o blant yn ddioddef o ddifyg maeth enbyd

Lleihau taldra ymuno a’r fyddin i 5 troedfedd yn 1900

Poblogaeth Llundain yn cynyddu o 2.3 miliwn yn 1841 i 7.3 miliwn erbyn 1911

Dosbarth Canol yn symyd i byw yn suburbia fel Headingley yn Leeds

Amodau byw yn gwaethygu i’r Dosbarth Gweithiol

Poblogaeth Llundain yn tyfu 20% pob degwad ers 1860

Digwyliad oes yn ardaloedd gweldig yn 51 oed ond yn disgyn i 28 oed yn Manceinion erbyn 1893

Cyflwyno Gwyliau Banc yn 1871

Rhoi cydnabyddiaeth i Undebau Llafur er ond 500,000 oedd yn aelodau ohonynt erbyn 1873

Bywydau nifer yn gwella rhwng 1870-1900

Cyflogau draean yn uwch yn 1900 na pedd yn 1975 ac yn 80% yn uwch na 1850

Prisiau yn cwympo rhwng 1874 a 1895

Achosion Diweithdra cyn 1914

Anochel y byddai gwledydd arall yn dala lan gyda phrydain yn economaidd

Cwmniau Prydeining yn araf iawn i addasu i peiriannau newydd

Manteision gan wledydd arall oherwydd maint poblogaeth a deunyddiau crai

Polisiau masnach gwledydd arall yn rhoi anfantais i Prydain

Rhai haneswyr yn dadlau nad oedd trefn a diwylliant Prydain yn addas ar gyfer diwydiant

Cynnydd o 10% y degawd o bobl na allai weithio

Canlyniadau Diweithdra

Rhaniad mewn cymdeithas rhwng y cyfoethog a’r tlawd

Un o brif achosion toldi oedd diweithdra

Dirywiad yn y berthynas rheng cyflogwr a’r weithwyr

Twf mawr mewn undebaeth lafur

25% o’r weithlu yn rhan o undebau erbyn 1914

Streicio mawr yn digwydd 1889-1893 a 1910-1914

Blaid Lafur yn cael ei sefydlu yn 1906


Hunangymorth a’r Ddadl dros Dlodi (Booth a Rowntree)

Agweddau Tuag at Dlodi

Barn cyffredinol yn ystod yr Oes Victorianaidd oedd mai cyfrifoldeb yr unigolyn i gadw allan o dlodi

Llywodraeth Ceidwadol a Rhyddfrydol yn dilyn y gred laissez-faire

Rhai pobl yn dweud fod y tlodion yn dlawd oherwydd ffactorau economaidd a chymdeithasol

Victorianaid yn dweud bod tlodion haeddiannol a toldion anhaeddiannol

Deddf Tlodion 1834 yn dylanwadu ar agaweddau pobl tuag at toldi am weddill y ganrif

Hunangymorth

Os oedd person am wella ei bywyd roedd yn rhaid iddo helpu ei hun

Samuel Smiles yn cyhoeddi llyfr yn 1859 a’r brawddeg cyntaf oedd “Heaven helps those who help themselves”

4.2 miliwn yn aelodau o cymdeithasau cyfeillgar erbyn 1891 gyda chronfeydd o £22.7 miliwn

Codi i 6.2 miliwn o aelodau erbyn 1909 gyda £48.2 miliwn yn y gronfa

Y Ddadl Dros Dlodi

Syniad mai bai’r toldion oedd ei tlodi yn colli ei rym

Apwyntio Comisiwn Brenhinol ar Dlodi gan y Llywodraeth yn 1905

Amlwg nad oedd Deddf Tlodion 1834 yn delio’n llwyddiannus gyda thlodi

Tlodi dal u fodoli at raddfa eang ym Mhrydain

Amlwg nad ellid egluro’r tlodi trwy rhoi’r bai ar y tlodion am eu diogi a’u meddwdod

Archwiliadau Charles Booth a Seebhom Rowntree

Astudiaethau gwyddonol yn hytrach nag emosiynol

Defnyddio ystadegau i brofi fod angen help oddi wrth y wladwriaeth

Bwysig o ran newid agweddau tuag at y rhai oedd yn byw mewn tlodi

Charles Booth

30% o bobl Llundain yn byw o dan y llinell dlodi

45% o hen bobl Llundain yn byw mewn tlodi ofnadwy

Ni allai eithwyr ddod o hyd i waith arall ar ol iddo golli ei waith mewn amser o ddirwasgiad

Rhai dynion yn byw mewn tlodi gan ei roedd yn rhy dost i weithio

Dadlau dylai’r wladwriaeth gymryd cyfrifoldeb

Seebohm Rowntree

28% o bobl Efrog yn byw mewn tlodi difrifol

Cyflogau mor isel bod hyd yn oed dynion oedd mewn cyflogaeth lawn yn gweithio oriau hir bob dydd ac yn agos i’r llinell newyn

Datblygu’r syniad o cylch tlodi bywyd

Cylch Tlodi Bywyd Rowntree

30% o bobl Llundain ac Efrog yn byw dan y linell dlodi

pwysigrwydd ac Effaith Gwaith Booth a Rowntree

Newid agweddau pobl tuag at dlodi

Booth yn profi mai’r broblem fawr oedd anghysondeb gwaith

Bwysig gan wnaethynt ddarparu’r dystiolaeath ystadegol

Ond y wladwriaeth oedd a’r pwer a’r arian i ddarparu’r help oedd ei angen

Cylch tlodi bywyd Rowntree yn dangos nad oedd y tlotai yn addas ar gyfer y sefyllfa hon

Rhoi hwb a chyfeiriad i ddiwygiadau llywodraethau Rhyddfrydol 1906-1914



Yr Ymateb i Archwiliadau Booth a Rowntree

Y Linell Dlodi

Booth yn cael ei feirniadau gan nad oedd ei ddiffiniad o linell tlodi yn ddigon cywir

Rowntree yn cael ei beirniadau am osod y llinell dlodi yn rhy uchel

Sefydlu Comisiwn Brenhinol ar Gyfreithiau’r Tlodion 1904

Edrych ar sut oedd y tlodion yn cael eu gofalu

20 o aelodau a oedd yn gymysg o gefnidoredd wahanol

Aelodau yn methu cytuno ac yn cyflwyno dau adroddiad

Adroddiad y Mwyafrif

Helen Bosanquet ac aelodau’r Charity Organisation Society

Dweud dylai Cyfraith y Tlodion barhau fel ag yr oedd

Adroddiad y Lleiafrif

Beatrice Webb

Pwysleisio achosion academaidd tlodi

Angen i’r wladwriaethwneud rhywbeth

Dylid cael gwared ar Gyfraith y Tlawd

Pwysigrwydd Comisiwn Cyfraith y Tlodion

Llywodraeth dim yn weithredu ar un o’r ddau adroddiad

Hybu Llywodraeth Rhyddfrydol 1906-1914 i geisio datrys y problem

Rhyddfrydwyr wedi dechrau gweithredu cyn i’r comisiwn adrodd yn 1909



Effaith Rhyfel y Boer

1899-1902

Prydain yn ryfel yn erbyn y Boeriaid yn Ne Affrica

Prydain yn ennill y rhyfel

Dulliau Ymladd Prydain

Boeriaid yn defnyddio ddulliau guerrilla

Achosi lawer o broblemau i filwyr Prydain

Arglwydd Kitchener yn benderfynnu llosgi cnydau a ffermydd y Boeriaid

Casglu’r menywod a’r phlant at ei gilydd a’i rhoi mewn gwersyll crynhoi

Prydain yn cael ei beirniadu gan nifer o wledydd arall am hyn

20,000 o fenywod a phlant yn farw yn y gwersylloedd yn 1901 yn unig

Cost y Rhyfel

Gwario £23 miliwn rhwng 1899-1900

Gwariant yn codi i £67 miliwn erbyn 1901-1902

Gwario £200 miliwn erbyn diwedd y rhyfel yn 1902

20,000 o Brydeinwyr yn farw

Ceidwadwyr yn colli llawer o gefnogaeth

Pobl yn dechrau troi yn erbyn y syniad o imperialiaeth

Cyflwr y Gwirfoddolwyr




Cyflwr y Gwirfoddolwyr

Profi trafferth mawr wrth ymladd yn erbyn gelyn oedd yn bell o fod more gryf a Phrydain

Dioddefau’r gwirfoddolwyr o broblemau meddygol oedd wedi eu hachosi’n uniongyrchol gan dlodi

Cadfridog Syr Frederick Maurice yn dweud yn 1903 nad oedd dau allan o bob pump o ddynion oedd wedi ymuno gyda’r fyddin yn addas i fod yn filwr ar ol dwy flynnedd

Tystiolaeth gref i brofi fod angen i’r wladwriaeth ymyrryd




Effeithlonrwydd Cenedlaethol

Consyrn ynghlyn a effeithlonrwydd cenedlaethol poblogaeth Prydain

Pobl yn pryderi gallai’r dirywiad cenedlaethol hyn arwain at wanhau gallu milwrol Prydain

Pobl eithafol yn dadlau y ffordd orau o wella’r effeithlonrwydd hyn oedd trwy sterileiddio’r bobl wannaf mewn cymdeithas

Rhan fwyaf o bobl yn gweld mai addysg oedd gwraidd y broblem

Pasio Deddf Addysg 1902 er mwyn ceisio gwella safon yr addysg


Y Llywodraeth Unoliaethol yn dod i ben a Dyfodiad y Rhyddfrydwyr i Rym

Ceidwadwyr mewn grym trwy rhan fwyaf o’r 1890au

Pam oedd y Llywodraeth Unoliaethol Wedi Dod i Ben?

Diffyg Diwygio Cymdeithasol

Nid oedd y Ceidwadwyr wedi pasio unrhyw diwygiadau cymdeithasol erbyn 1905

Credent yn gryf yn hunangymorth

Gamgymeriad mawr ar eu rhan hwy

Diwygio Tollau

Rhwyg yn y blaid Geidwadol yn ymddangos

Nifer yn credu fod angen troi cefn ar laissez-faire a dechrau gosod tollau ar fewnforion

Mater hwn yn helpu i’r blaid Rhyddfrydol uno

Rhai yn y blaid Rhyddfrydol yn cefnogi’r Boeriaid yn ystod y Rhyfel

Yr Adwaith i Ryfel y Boer

Ceidwadwyr yn colli llawer o gefnogaeth

Nid oedd pobl Prydain yn hapuus gyda’r defnydd o wersyll crynhoi

Deddf Addysg 1902

Amhoblogaidd ymhlith anghydffurfwyr Prydain

Rhyddfrydwyr yn ffurfio llywodraeth ac yn galw etholiad cyffredinol yn 1906

Dyma oedd y ‘Liberal Landslide Victory of 1906’

Llywodraeth Ryddfrydol 1905-1908

Prif Weinidog - Syr Henry Campbell-Bannerman

Canghellor y Drysorlys - Herbert Asquith

Llywydd y Bwrdd Masnach - David Lloyd George

Campbell-Bannerman yn farw yn 1908









f


Llywodraeth Ryddfrydol 1908-1915

Prif Weinidog - Herbert Asquith

Canghellor y Drysorlys - David Lloyd George

Llywydd y Bwrdd Masnach - Winston Churchill



Rhesymau’r Rhyddfrywyr dros Ddiwygio

Safle Economaidd Prydain

Nid oedd y cyflwr economaidd mor gryf a pedd ynghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg

Nid oedd Prydain mor sicr y gellid cynnal ei chyfoeth economaidd

Cystadleuaeth economaidd o wledydd tramor

Os oedd ymyrryd yn yr economi yn dod yn fwy derbyniol roedd ymyrryd mewn cymdeithas yn dod yn fwy derbyniol hefyd

Agwedd y Rhyddfrydwyr at Drethi

Llywodraeth Rhyddfrydol 1892-1895 wedi troi ei chefn ar agwedd draddodiadol

William Harcourt yn pwysleisio y gwahaniaeth rhwng cyfoeth anghynhyrchiol a chyfoeth cynhyrchiol

Cwtogi trethi ar incymau cymhedrol ond cyflwyno dollau mawr ar incymau mawr,

Gwaith Charles Booth a Seebohm Rowntree

Cael dylanwad mawr ar ddynion llywodraeth Rhyddfrydol Campbell-Bannerman

‘Rhyddfrydiaeth Newydd’

Agwedd hollol newydd tuag at y wladwriaeth

Rhyddfrydwyr newydd yn credu dylai’r wladwriaeth ymyrryd

Credi fod rhaid cael cyfiawnder cymdeithasol

Dadlau fod angen dosbarth gweithiol iach er mwyn lles milwrol ac economaidd y wlad

Credi gallai ennill pleidleisiau llafur wrth ddiwygio

Syniadau Sosialaidd

Ennill llawer o boblogaeth ers yr 1880au

Sefydlu Pwyllgor Cynrychiolaeth Llafur yn 1900 ac yn datblygu i fod y blaid Lafur

Nifer yn credu gallai Llafur ddisodli’r blaid Rhyddfrydol

Nifer o sosialwyr am ddistrywio’r drefn gyfalafol

Blaid Lafur wedi ymddangos fel plaid oedd yn sefyll yn benodol dros y dosbarth gweithiol

Arbrofion Lleol y Gorffennol

Rhai llywodraethau wedi cymryd cyfrifoldeb am gyfleusterau cyhoeddu

Rhyddfrydwyr tu ol i’r ddatblygiadau yn Birmingham

Datblygiadau yn Birmingham mor lwyddiannus roeddynt yn dadlau fellid gwneud yr un peth ar raddfa genedlaethol

Y Ddadl dros ‘Effeithlonrwydd Cenedlaethol’

Wleidyddion yn sylweddoli fod yn rhaid gwella effiethlonrwydd trwy wella ansawdd y gweithlu

Roedd cael gweithlu gref, iachus wedi ei haddysgu’n dda yn hanfodol

Rhaid gwneud rhywbeth er mwyn gwella’r sefyllfa

Yr Almaen

Cael dylanwad mawar ar y Rhyddfreinwyr

Gweithredu sustem o yswiriant cymdeithasol

David Lloyd George yn ymweld a’r Almaen er mwyn weld sut oedd cynlluniau cymdeithasol y llywodraeth yn gweithio

Gwleidyddion yn gweld fod yr Almaen yn dod yn llawer cryfach

Modd dadlau fod mwy o ofal cymdeithasok yn ffordd i gryfhau’r wlad

Y Gwasanaeth Sifil

Gwasgedd gan fiwrocratiaeth broffesiynol y wladwriaeth i ymyrryd

Deddf Addysg 1907 yn dangos hyn yn well na dim

Claddu argymhellion ar gyfer archwiliad meddygol am ddim i blant ysgol yng Nghymal 13 o ddarn o ddeddfwriaeth gymleth

Anfon lythr at Awdurododau Addysg lleol yn eu hawdurdodi i ddarparu triniaeth feddygol ynghyd ag archwiliad feddygol

Lloyd George

Rhan allweddol gan y wladwriaeth wrth ymyrryd yn uniongyrchol ym mywydau pobl



Diwygiadau’r Rhyddfrydwyr 1906-1914

Diwygiadau Undebau Llafur

Deddf Anghydfod Llafur 1906

Ers 1901 ni allai undebau llafur feddwl am fynd ar streic

Rhaid i undebau ddiogelledu cwmni am golledion ariannol pan fyddai streic yn digwydd

i) Hawl gan undebau llafur i streicio heb ofni gorfod diogelledu perchnogion

ii) Hawl gan undebau llafur i bicedu’n heddychlon

Deddf Undebaeth Lafur 1913

Ganlyniad i benderfyniad 1909

Hawl gan y blaid Lafur i dderbyn cyfran o dal aelodaeth gweithiwr i bwrpasau etholiadol

Blaid Lafur yn brin o arian

Llai o fwyafrif gan y Rhyddfrydwyr ar ol etholiad cyffredinol 1910

Hawl i’r blaid Lafur i gael cyfran o dal aelodaeth gweithiwr i’w undeb

Hawl gan weithiwr i beidio gwneud

Deddfwriaeth Plant

Deddf Cinio i Blant 1906 a 1914

Hawl i awdurdodau addysg i ddarparu cinio ysgol i blant tlawd

Dim yn orfodol yn 1906

Llai na hanner awdurdodau Prydain wedi manteisio are y cyfle felly’n cael ei wneud yn orfodol yn 1914

Deddf Gofal Meddygol 1907 a 1912

Plant i gael eu harchwilio’n feddygol

Nid oedd gorfodaeth i ddarparu triniaeth feddygol rad

Rhoi grantiau yn 1912 ac erbyn 1914 roedd dwy ran o dair o gynghorau yn darparu rhyw fath o ofal meddygol plant

Deddf Addysg 1907

Ysgolion eilraidd i gadw chwarter eu llefydd ar gyfer plant tlawd yn rhad

Nifer o plant dosbarth gweithiol oedd mewn ysgolion eilraidd yn codi

Deddf Plant yn Troseddu

Troseddwyr iau i gael ei achos wedi ei glywed mewn llys iau arbennig

Cael ei anfon i ysgol gywiro nid carchar

Cosbi pobl oedd yn camdrin plant

Cael ei alw yn Siartr y blant

Deddf Plant 1908

Dweud fod hawliau gyda phlant a dylai’r wladwriaeth eu hamddifyn

Dweud fod angen amddiffyn plant rhag trais neu eu hamddifadu gan eu rhieni

Effaith, Dylanwad, Pwysigrwydd a Llwyddiant Siartr y Plant

Nid oedd y llywodraeth wrth wraidd y mesur i roi cinio am ddim

Dadlau bod annibyniaeth a syniad o hunan-gymorth y teulu yn cael eu tanseilio

Erbyn 1914 roedd dros 14 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn yn cael eu rhoi i 158,000 o blant

Nid oedd archwiliad meddygol yn rhan o gynlluniau gwreiddiol y llywodraeth

Er i archwiliadau meddygol dechrau yn 1907, nid oedd triniaeth rad ac am ddim i’r plant

Deddf Pensiynau’r Henoed 1908

Henoed dros 70 oed yn derbyn 25 ceiniog yr wythnos

Na chai unrhyw berson a dderbyniai dros £21 y flwyddyn o ffynhonnellau eraill dderbyn y penswiwn

Rhai pobl yn dadlau fod 25c yn rhy fach a fod 70 oed yn rhy hwyr

Lloyd George yn cael y clod er i Asquith neud rhan fwyaf o’r waith paratoi

Effaith, Dylanwad, Pwysigrwydd a Llwyddiant Pensiynau’r Henoed

Lloyd George yn dweud nad oedd y Ddeddf Bensiynau yn mynd i ddelio’n hollol lwyddiannus gyda phroblemau tlodi

Arglwydd Halsbury yn dweud “so paltry as to be all but a mockery”

Roedd yn ddrud iawn i’w weithredu ac wrweiniodd yn uniongyrchol at godi trethi yn 1909

Nid oedd cymdeithasu cyfeillgar yn fodlon gyda’r ddeddf

The Times yn dweud yn 1908 fod rhoi arian i’r bobl yn tanseilio’r cymeriad

Derbynion tua 600,000 y taliad, 45% o bobl dros 70 oed

Cwympodd y nifer o bobl a dderbyniai cymorth y tlodion o 132,000 i 8,000 erbyn 1911

Pobl yn derbyn pensiwn fel hawl

Diwygiadau ar gyfer y Dosbarth Gweithiol

Deddf Iawndal Gweithwyr 1906

Hawl gan bob gweithiwr i hawlio iawndal pe anafwyd ef wrth weithio

Deddf Llongau Masnachol 1906

Cyflwynwyd rheolau llym ynglyn a safon bwyd a llety ar fwrdd llongau Prydeining

Deddf Pyllau Glo 1908

Glowr i weithio 8 awr pob dydd

Tro cyntaf i lywodraeth Brydeining ymyrryd ar hyd oriau gwaith dynion

Deddf Cyfnewidfeydd Llafur 1909

Sefydlu gan Winston Churchill a William Beveridge

Cael ei wthio ar y rhyddfrydwyr gan Beatrice Webb

Lle gallai gweithwyr fynd i darganfod pa swyddi oedd ar gael

430 ohonynt ym Mhrydain erbyn 1913

Creu 3,000 o swyddi erbyn 1914

Deddf Byrddau Masnach 1909

Churchill yn sefydlu byrddau llafur i sicrhau isafswm cyflog

Tua 400,000 o weithwyr yn cael eu hamddifyn erbyn 1913

Arwyddocaol fod y llywodraeth yn ymyrryd

Deddf Yswiriant cenedlaethol 1911

Pemsiynau’r henoed yn cael ei talu allan o drethi

Lloyd George yn penderfynnu dylid ariannu’r cynllun hwn trwy cael gyfraniadau oddi wrth gweithwyr, eu cyflogwyr a’r llywodraeth

Yswiriant Iechyd

Gweithwyr yn talu 4d, cyflogwr yn talu 3d am bob un o’i weithwyr a’r llywodraeth yn talu 2d am bob weithiwr yn y wlad

Os byddai weithiwr yn rhy dost i weithio byddai’n derbyn 10 swllt yr wythnos

Ni dderbyniai ei wraig na’i blant y manteision hyn na phobl oedd yn ennill mwy na £160 y flwyddyn

Effaith, Dylanwad, Pwysigrwydd a Llwyddiant Yswiriant Iechyd

Rhwystro caledi

Nad oedd Lloyd George yn creu fod yn cynllun yn berffaith ond dyma oedd ei lwyddiant mawr cyn 1914

Ond rhyw 13 miliwn o bobl allan o gyfanswm o tua 45 miliwn oedd yn rhan o’r cynllun

Yswiriant Diweithdra

Gweithiwr yn talu 2½d

Cyflogwr yn talu 2½d am bob gweithiwr yn ei waith

Llywodraeth yn talu 1⅔d

Gweithiwr yn derbyn 7 swllt yr wythnos am yr 15 wythnos cyntaf o ddiweithdra

Effaith, Dylanwad, Pwysigrwydd a Llwyddiant Yswiriant Diweithdra

2½ miliwn o weithwyr yn cael ei hyswirio mewn saith diwydiant

Diweithdra yn cael ei dderbyn fel rhan o fywyd

Budd-dal dipyn yn llai na’r hyn oedd ei angen i gynnal teulu

Diwygiadau Cyfreithiol

Talu Aelodau Seneddol 1911

Aelodau seneddol i cael ei talu £400 y flwyddyn

Dynion Dosbarth Gweithiol yn cael dod yn aelodau seneddol

Deddf Isafswm Cyflogau Glowyr 1912

Sefydlu fyrddau i sicrhau isafswm cyflog i lowyr ar sail ardal

Cyllideb 1909

Angen £15 miliwn ychwanegol

Unig ffordd i cael yr arian oedd trwy codi trethi

  1. Codi’r dreth incwm o swllt i swllt 2d yn y bunt ar incymau dros £3,000

  2. Supertax o 6d ar incymau dros £5,000

  3. Trethi uwch ar dybaco a gwirodydd

  4. Trethi ar betrol a cheir

  5. Treth o 20% ar gynnydd mewn gwerth tir pan oedd yn cael ei werthu

Achosi ddadlau a chweryla

Gorfodi i’r llywodraeth basio Deddf Seneddol 1911

Effaith, Dylanwad, Pwysigrwydd a Llwyddiant ‘Cyllideb y Bobl’

Achosi gweryl mawr rhwng y llywodraeth rhyddfrydol a’r arglwyddi

Cael ddau etholiad ym 1910 er mwyn dangos fod gefnogaeth y wlad ganddynt ond collodd ei mwyafrif enfawr o 1906

Basio’r gyllideb fel Ddeddf Seneddol 1911

Ofnadwy o bwysog i ddatblygiad cyfansoddiad Prydain

Effaith, Dylanwad, Pwysigrwydd a Llwyddiant y Diwygiadau Rhyddfrydol - Cyffredinol

Wedi gwneud llawer i wella tlodi

Llawer yn cwympo trwy’r rhwyd

Anodd penderfynu beth oedd effaith y diwygiadau hyn oherwydd dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914

Gosod yr agenda ar gyfer weddill yr ugeinfed ganrif

Gwerthoedd a delfrydau Victorianaidd yn parhau felly roedd y diwygiadau yn gyfyngiedig iawn

Un peth oedd dal yn bwysig oedd cyfyngu ar wariant llywodraethol

Wladwriaeth yn chwarae rhan llawer mwy amlwg gan ymmyrryd llawer mwy